P-06-1228 Talu bonws i athrawon uwchradd am farcio a safoni asesiadau swyddogol haf 2021, Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor, 30.05.22

 

                                  Deiseb P-06-1228

 

Yn fy marn i mae'r ddogfen atodedig yn atgyfnerthu fy nghais am fonws i athrawon gyda'r llu o dystiolaeth sydd yn beirniadu'r broses a'r sgil effeithiau difrifol ar les staff. Hoffwn dynnu eich sylw at y rhannau hynny o'r adroddiad: 

·        "Felly, un funud roedd yn mynd i fod fel hyn, yna roedd yn mynd i fod yn ffordd arall.... Dyna a'i gwnaeth mor anodd ei fyw, oherwydd roedd y wybodaeth yn dod atom drwy'r amser.  Byddwch yn cael diweddariad ac weithiau doeddech chi ddim bob amser yn gwybod bod diweddariad wedi bod... Rydym yn rheoli llawer o bethau eraill ac roedd yn amhosibl ar adegau i gadw i fyny ag ef...."

·        "Roedd yr arweinwyr canol yn eithriadol o anhapus â'r llwyth gwaith..."

·        "Roedd popeth yn llafurus:  roedd yn hurt."

·        "Roedd braidd yn anodd.  Roedd y plant i mewn ac allan.  Roedd llawer o ddysgu ar-lein.  Gwnaethom lwyth o fideos, ond roedd llawer o anghydraddoldeb o ran rhai yn gwneud popeth a rhai'n gwneud dim.  Roedd yn anodd iawn gwybod sut i'w wneud yn deg i bawb."

·        "Yr her fwyaf ... oedd nad oedd y disgrifwyr gradd yno'n llawn felly aethom am A i C i E ac roedd llawer o amwysedd".

·        "Roedd yn anodd iawn gyda'r pynciau ymarferol ... felly roedd rhaid i ni addasu ein holl wersi..."

·        "Dydw i ddim yn teimlo fel ein bod wedi cael unrhyw hyfforddiant- p'un a yw hynny'n digwydd ar lefel uwch arweinwyr...".

·        "Roedd yr hyfforddiant ar-lein yn 'bitty', 'ar hyd y lle' ac 'anodd i gadw i fyny ag ef' ".

·        "Os y'ch chi'n athro newydd neu'n gweithio mewn ysgol newydd, ac oes na 'da chi brofiad o farcio allanol na banc o brofiad gwaith o'r blynyddoedd cynt.. rwyn credu byddai wedi bod yn anodd iawn i chi..".

·        " Roedd fel petai CBAC wedi diflannu'n llwyr i'r papur wal (cefndir). Dw i yma'n dysgu, marcio, asesu a safoni yn ogystal â chreu'r holl ddogfennau hyn, felly beth oedd CBAC y gwneud yn ystod y cyfnod hwn?.. Mi oedden ni'n teimlo fel ein bod ni'n gyrru drwy'r niwl ar adegau ac nad oedd CBAC yn unman i'w weld".

·        "Gallai fod wedi dod yn gynharach (penderfyniadau terfynol).. Rydych chi wedi ysgrifennu polisi, wedi rhannu polisi, wedi'i gadarnhau ac yna daw darn o arweiniad allan a rydych chi'n meddwl.. gallem fod wedi'i wneud fel hyn, ac rydych chi eisoes wedi ymrwymo i'w wneud mewn ffordd wahanol sy'n llawer mwy llafurus".

·        "Beth rwy'n ei deimlo nawr.. yw bod perygl mewn ysgolion, gofynnir i ni baratoi myfyrwyr ar gyfer arholiad ond yn y cefndir eu paratoi ar gyfer gradd a bennir gan ganolfan. Sut mae gwneud y ddau? O leiaf llynedd roedden ni'n gwybod nad oedd arholiadau"

( Mae hwn yn cyfeirio at y flwyddyn gyfredol- gofynwyd i athrawon mewn canolfannau i wneud hyn eleni eto tan oleiaf hanner tymor Chwefror gan eu huwch arweinwyr a oedd yn pryderu y byddai posibliad i'r arholiadau i gael eu canslo. Felly mae athrawon wedi bod o dan yr un straen eto e.e  yn gosod asesiadau ychwanegol ac yn gorfod llungopio pob darn o waith/asesiad cyn dychwelyd at ddisgyblion er mwyn cadw tystiolaeth ar gyfer graddau canolfan posib)

·        "... fe arweiniodd at fater a chlust  a drymiau'r jyngl yn curo am beth oedd yn digwydd mewn mannau eraill a bu'n rhaid i chi gadw'ch plwc yn yr achosion hynny i sicrhau nad aethoch i banig a chwyddo graddau oherwydd eich bod yn clywed sibrydion".

·        "Roedd yn lawer o waith.  Roedd yn gyfnod hynod  o anodd. Dw i ddim am fynd drwy hynny eto oherwydd roeddem yn dysgu amserlen lawn, arferol bryd hynny yn yr haf, ac roedd disgwyl i ni ysgrifennu'r polisi, ond hefyd cwmpasu canllawiau disgrifwyr addysgol CBAC a oedd yn eithaf hir. Bu'n rhaid i ni ddarllen a deall y rheini ac yna roedd yn rhaid i ni greu asesiadau. Ni a'u marciodd; ni oedd yn eu safoni, ac nid oedd unrhyw amser ychwanegol ar ôl mewn gwirionedd".

·        "Anodd dros ben ei reoli... Roeddem yn cael achosion o COVID, ac roeddem yn gorfod gwneud y dilyn ac olrhain ar yr un pryd ... anfon plant adref, eu hynysu ar y pryd. Felly petai hwnnw oedd yr unig orchwyl a oedd gennym, buasai'n hydrin, ond roedd gwneud hyn a rhedeg ysgol, ac addysgu gwersi, yn cymryd llawer iawn o amser ac roedd nifer yr oriau yr oedd ein staff yn eu gweithio y tu hwnt i'r diwrnod ysgol yn helaeth iawn".

·        Nifer cyfartalog yr oriau a dreuliodd yr ymatebwyr ar raddio oedd 53.

·        Dywedodd dros ddwy ran o dair o'r ymatebwyr fod y broses wedi effeithio'n negyddol iawn ar dasgau eraill.

·        Dywedodd dros hanner yr ymatebwyr fod y broses wedi effeithio llawer iawn ar eu lles personol- " Nid oeddwn yn bwyta yr un mor iachus neu greadigol... Doeddwn i ddim yn ymarfer corff o gwbl ond yn eistedd yn eithaf aml. Dros y penwythnos hefyd, roeddwn i wedi ymlâdd".

·        "Dim amser i ffwrdd. Dim amser i baratoi ar gyfer mis Medi oherwydd roeddem yn gweithio cyn i ni dorri am yr haf i wneud yn siwr bod gennym yr holl dystiolaeth ar gyfer yr apeliadau fel y gallai'r Swyddog Arholiadau gael gafael arni os nad oeddem o gwmpas yn yr haf.  Esbonio a chyfiawnhau, cymedroli, safoni, marcio o hyd.  Doedd dim amser i anadlu - yn ogystal ag addysgu a cheisio paratoi myfyrwyr yn y blynyddoedd a oedd yn mynd i adael am ble bynag yr oeddent yn mynd.  Hwn oedd y flwyddyn waethaf erioed, heb os."

·        "Roeddech chi'n gorfod cefnogi eich myfyrwyr drwy'r amser... bydden nhw'n dewis anfon negeseuon atoch yn eithaf hwyr y nos".

·        " Roeddwn yn poeni'n ofnadwy y gallwn wneud cam â'r plant pe na fyddwn y cael y marciau'n berffaith gywir. Fyddwn i dim yn gwneud y gwaith pe na bawn i'n ymboeni am fy mhlant.. effeithiodd hynny arna i'n feddyliol achos r'on i'n meddwl beth os nad ydw i wedi chwarae'n deg?"

·        "Ar lefel uwch arweinwyr, rydych chi'n poeni am yr athrawon rydych chi'n eu rheoli a'u harwain a'r effaith, gallech weld ar eu hwynebau yr effaith yr oedd yn ei chael arnyn nhw bob dydd oherwydd does dim byd gwaeth na dod i mewn a gweld ôl mwy na straen ar bobl".

·        " Pe gallem fod wedi dechrau'r broses yn gynharach, pe byddem wedi cael mwy o amser.. wyddoch chi, pe baem wedi dechrau'r broses ym mis Ionawr lle gallem fod wedi dod i ben erbyn dechrau mis Mai, byddem wedi cael mis cyfan yn ychwanegol i ledaenu'r llwyth gwaith."

Mae casgliadau (4) yr adroddiad y dangos yn glir fod problemau wedi bod gydag arweiniad a'r cymorth gan CBAC, fod y llwyth gwaith a phwysau graddio wedi effeithio ar les personol llawer o staff canolfan (a dysgwyr)  ac os oes penderfyniad i weithredu model tebyg yn y dyfodol awgrymir y byddai staff canolfan eisiau penderfyniadau amserol, deunyddiau addas a chymorth priodol gan gynnwys, mewn rhai achosion, tâl am amser ychwanegol.

 

Mae'r ddogfen yn mynd i'r afael yn glir felly â'r materion a godwyd gennyf yn wreiddiol ac yn dangos bod hwn yn farn athrawon ledled y wlad.

 

Hoffwn felly ofyn i'r Gweinidog Addysg a yw e dal i gredu ar ôl iddo ddarllen y dystiolaeth ddamniol a phryderus hon, nad yw athrawon uwchradd yn haeddu bonws fel athrawon yr Alban?  Nid yw dweud diolch yn ddigonol. Mae angen ymddiheuriad arnom ganddo. 53 awr ychwanegol o waith x lleiafswm cyflog £9.18 yr awr= £486.54

Derbyniodd staff y NHS fonws yn ystod y pandemig, a nifer ohonynt yn eistedd  adref yn gwneud gwaith ar eu cyfrifiaduron, gyda llai o bwysau na'r arfer, ddim yn gweld pobl wyneb i wyneb.  Roedd ein gwaith ni wedi dyblu- yn dysgu ar lein, wyneb i wyneb a gwneud gwaith CBAC drostynt.

 

I orffen, hoffwn ategu fod nifer o athrawon eto eleni wedi gorfod pennu graddau ar gyfer rhannau o'r cyrsiau TGAU a Lefel A yn lle arholwyr allanol  CBAC- heb unrhyw amser ychwanegol, na thâl, dim ond cynnydd yn y llwyth baich arferol. Rydw i yn un ohonynt.

 

Diolch.

 

Lisa M Williams